Sefydlwyd y cwmni yn 1997 gan y plastrwr Dyfed Owen, ac aeth y cwmni o nerth i nerth wrth iddo ddatblygu o blastro i adeiladu a rhoi’r busnes ar drywydd newydd. Mae Adeiladwyr Môn Cyf yn fusnes sydd wedi’i leoli ar yr ynys, ac mae’n gwmni cyfeillgar a phroffesiynol sy’n darparu gwasanaeth o safon uchel gan adeiladwyr a chrefftwyr profiadol.
Mae ein hymrwymiad i ansawdd, ynghyd â thwf cyson, yn golygu bod ein cwsmeriaid yn fodlon iawn â’n gwaith. Rydym ni’n hyrwyddo’r syniad o ‘Un Tîm, Un Ffocws’ trwy weithio ar y cyd â’n cleientiaid, ymgynghorwyr a’r gadwyn gyflenwi - gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni i’w llawn botensial.
Mae ein gwaith yn amrywio o dai newydd, i estyniadau, gwaith adnewyddu, gwaith atgyweirio, a gwaith cynnal a chadw. Mae ein tîm yn gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, ac ardaloedd cyfagos ac ymhlith ein cleientiaid mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Ynys Môn, ynghyd â datblygwyr a chleientiaid preifat.
Rydym ni’n sicrhau’r ansawdd uchaf ym mhob agwedd ar ein gwaith, a dyna pam rydym ni’n buddsoddi’n helaeth yn ein hachrediad ansawdd a'n cymdeithasau yn ogystal â'n staff, ac rydym ni wedi cael ein cymeradwyo gan SQMAS, CHAS, HETAS, NICO a Buy with Confidence.
Yn ogystal â chynnal tîm profiadol a phroffesiynol, rydym ni’n sicrhau bod ein tîm rheoli wedi ymrwymo'n llwyr i ymgymryd â'r holl waith gyda ffocws penodol ar ansawdd a Rheoli Gweithrediad Iechyd a Diogelwch.
Adeiladwyr Môn Cyf
Adeiladwyr Môn Cyf, Uned 2 Canolfan Fusnes Ynys Môn, Parc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7XA
Wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr Rhif 09206798
Polisi Preifatrwydd (i ddilyn yn fuan...)
Prif Swyddfa - 01248 470 237 |
|
Hawlfraint © 2021. Cedwir Pob Hawl – Gwefan gan Delwedd