Example of Anglesey Builders work

Yr ydych yma: Hafan > Amdanom ni > Budd i’r Gymuned

Budd i’r Gymuned

Tîm Dan 7 CPD Bodedern Athletic

Pleser oedd cael y cyfle yn ddiweddar i noddi citiau hyfforddi tîm Dan 7 CPD Bodedern Athletic.

Yn y llun yma mae Lee Potter, ein Rheolwr Prosiect, yn cyflwyno’r citiau i ambell aelod o’r tîm.

Dwi’n siŵr y bydd pawb yn cytuno bod y tîm yn edrych yn wych ac yn barod amdani!

Cynllun Kickstart – Môn CF

Braint mawr oedd cael cymryd rhan yn y cynllun Kickstart sy’n helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor ddod o hyd i gyflogaeth barhaol.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Kickstart scheme logo
 
 
  • Kickstart scheme logo
  • Mon CF logo

Prif Noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn

Fel rhan o’n Prosiect Budd i’r Gymuned, roedd Adeiladwyr Môn Cyf yn hynod falch o gael bod yn brif noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn. Mae’r Gymdeithas hon wedi’i chofrestru a’i chymeradwyo’n llawn gan Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ac yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y garfan genedlaethol.

Meddai Gethin Williams, a oedd yn siarad ar ran y cwmni

“Gan ein bod yn gwmni lleol, rydyn ni’n cyflogi 100% o’n gweithlu yn lleol. Ar ôl gweld twf sylweddol yn ein busnes, mae wedi ein rhoi mewn lle da i allu cefnogi cymdeithas o’r fath, sy’n agos iawn at ein calonnau ni."

Anglesey Builders sponsor Môn Schools football association

Noddi Clwb Pêl-droed Llannerchymedd 2020

Yn ystod tymor 2020, Adeiladwyr Môn Cyf oedd prif noddwr cit hyfforddi Clwb Pêl-droed Llannerchymedd.

Llanerchymedd football club sponsorship 2020

Pasbort i Adeiladu 2019

Cafodd Adeiladwyr Môn Cyf gyfle i gefnogi ffug gyfweliadau ar gyfer pobl sy’n ddi-waith yn hirdymor fel rhan o’r rhaglen Pasbort i Adeiladu a gaiff ei hariannu gan CITB. Cafodd y rhaglen ei chynnal gan Creu Menter a Brenig Construction. Roedd CITB yn gallu darparu’r cwrs adeiladu i bobl sy’n ddi-waith yn hirdymor yng Ngogledd Cymru.

Roedd pob cwrs yn para 6 wythnos, a chafodd y rheiny a oedd yn cymryd rhan gyfle i ddysgu sgiliau cyflogadwyedd, ymweld â safleoedd adeiladu, cymryd rhan mewn profiad gwaith wythnos o hyd a’r cymhwyster Iechyd a Diogelwch a CSCS. Byddant hefyd yn ennill achrediad ‘Gweithio mewn Adeiladwaith’.

Un stori sy’n dangos llwyddiant y rhaglen hon yw bod Adeiladwyr Môn Cyf wedi cynnig cyflogaeth llawn amser i un o’r ymgeiswyr. sy’n parhau i fod yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Passport to construction 2019