Example of Anglesey Builders work

Yr ydych yma: Hafan > Amdanom ni

Amdanom ni

Proffil y Cwmni

Mae Adeiladwyr Môn Cyf yn gwmni cyfeillgar a phroffesiynol ar Ynys Môn sy’n darparu gwasanaeth o safon uchel gan weithwyr profiadol a chadwyn gyflenwi y gallwch ymddiried ynddi.

Mae ein hymrwymiad i ansawdd, ynghyd â thwf cyson, yn golygu bod ein cwsmeriaid yn fodlon iawn â’n gwaith. ‘Un Tîm, Un Ffocws’ yw ein hathroniaeth, a hynny drwy weithio ar y cyd â’n cleientiaid, ymgynghorwyr a’r gadwyn gyflenwi - gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni i’w lawn botensial.

Mae ein gwaith yn amrywio o dai newydd, i ddymchwel, estyniadau, gwaith adnewyddu, gwaith atgyweirio, a chynnal a chadw. Mae ein tîm yn gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, ac ardaloedd cyfagos. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Clwyd Alyn, Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, Vinci Construction, ynghyd â chleientiaid preifat.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau’r ansawdd uchaf ym mhob agwedd ar ein gwaith, a dyna pam rydym yn buddsoddi yn hael yn ein hachrediadau a'n cymdeithasau ansawdd yn ogystal â'n staff, ac rydym ni wedi ein cymeradwyo gan SQMAS, FENSA, FMB,  CHAS, HETAS, NIKO a Buy with Confidence.

Yn ogystal â chynnal tîm profiadol a phroffesiynol, rydym yn sicrhau bod ein tîm rheoli wedi eu hymrwymo'n llwyr i ymgymryd â'r holl waith gyda ffocws penodol ar ansawdd a Rheolaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).