Yr ydych yma: Hafan > Ein gwasanaethau
Ein gwasanaethau
Er ein bod wedi ein lleoli ar Ynys Môn, mae Adeiladwyr Môn Cyf yn gwasanaethu gogledd Cymru gyfan, ac yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn creu diwydiant adeiladu sy’n fwy cynaliadwy.
Rydym yn darparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid sy’n mynd i’r afael â phob her yn y maes adeiladu a datblygu. Ymhlith yr heriau hyn mae:
- Materion sy’n codi cyn adeiladu megis caniatâd cynllunio, dadansoddi gwerth a chydlynu gwasanaethau statudol.
- Cydlynu a thrafod pecyn gwaith yn uniongyrchol gyda chrefftwyr.
- Cydlynu gwaith o gymeradwyo’r rheoliadau adeiladu a materion cysylltiedig.
- Cymorth gydag ystyriaethau cynllunio, dylunio a rheoli prosiect o'r cam cychwynnol.
Ein gwaith:
- Gwaith daear/Draenio
- Adeiladau (Domestig a newydd masnachol)
- Gwaith adnewyddu (Domestig a masnachol)
- Ffitio a gwaith tu mewn
- Cyfleusterau a Gwaith Cynnal a Chadw
- Gwaith Clirio Llystyfiant
Rydym yn hynod falch o bob prosiect rydym yn ymgymryd ag ef ac yn ei gyflawni. Mae ein tîm yn herio'i hun yn gyson i ganfod ffyrdd gwell a doethach o ddarparu gwerth a datrysiadau er budd ein holl gleientiaid ym mhob prosiect.
info@angleseybuilders.com 01248 470 237 English