Yr ydych yma: Hafan > Amdanom ni > Dod i adnabod y tîm
Dod i adnabod y tîm
Gethin E Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae gan Gethin dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, ac ymunodd â thîm Adeiladwyr Môn ym mis Mawrth 2019.
Mae’n weithiwr proffesiynol, ac mae wedi ennill cyfoeth o brofiadau mewn amrywiaeth o brosiectau adeiladu yn cynnwys rheoli ymarferol, caffael, ac is-gontractio.
Mae Gethin yn defnyddio ei brofiad i reoli’r cwmni, a symud y cwmni ymlaen i’r dyfodol.
Mae Gethin yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae ganddo record gref o weithio gyda chleientiaid a rheoli rhaglenni a chyllidebau’n effeithiol.
Lee Potter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Mae gan Lee dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, sy’n golygu bod ganddo brofiad helaeth yn amrywio o waith adnewyddu mewnol ac allanol ar raddfa fawr, i waith adeiladu domestig a masnachol newydd sbon.
Lee sy’n sicrhau bod ein gwaith yn cael ei reoli'n effeithlon, gan fwrw golwg gyffredinol dros y gwaith, yn ogystal ag ymwneud â'r materion manylach pan fo angen.
Mae Lee yn siaradwr Cymraeg rhugl ac mae ganddo record lwyddiannus o gwblhau prosiectau yn ddiogel, ar amser ac o fewn y gyllideb.
info@angleseybuilders.com 01248 470 237 English