Example of Anglesey Builders work

Yr ydych yma: Hafan > Ein prosiectau > Llys Cerios (Cam 1) Adnewyddu Llety Preswyl

Llys Cerios (Cam 1) Adnewyddu Llety Preswyl

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dymuno adnewyddu dwy fflat wag yn y llety preswyl ar safle Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Penodwyd Adeiladwyr Môn Cyf yn Brif Gontractwyr ar gyfer Rhan 1 prosiect Llys Ceirios. Fe wnaed y gwaith ar amser, yn unol â’r gofynion ac o fewn y gyllideb. Cwblhawyd y cytundeb dros gyfnod o 15 wythnos, yn dechrau ar 22 Mawrth 2021 a dod i ben ym mis Gorffennaf 2021.