Example of Anglesey Builders work

Yr ydych yma: Hafan > Ein prosiectau > Prosiectau Adnewyddu > Adnewyddu tu mewn a thu allan i 11 Eiddo (Cyngor Sir Ynys Môn)

Adnewyddu tu mewn a thu allan i 11 Eiddo (Cyngor Sir Ynys Môn)

Gwaith a gynhaliwyd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, a oedd yn cynnwys stripio’r eiddo’n llawn, cael gwared ar asbestos, gosod gwres canolog nwy newydd, ail-weirio’n llawn, ail-blastro, gosod ceginau newydd, gwaith coed drwy’r eiddo, gosod ystafelloedd ymolchi newydd, ailaddurno’n llawn, ac ailosod y ffenestri a’r drysau allanol i gyd. Gwnaed gwaith ar y tu allan hefyd, gan gynnwys gwaith ar ymylon y toeau, gosod toeau newydd, inswleiddio’r Waliau Allanol, a gosod nwyddau dŵr glaw, clirio’r gerddi a thorri gwair. Roedd pob safle'n cydymffurfio'n llawn â’r rheoliadau adeiladu, a gwnaed yr holl waith yn unol â manyleb safonol SATC.