Example of Anglesey Builders work

Yr ydych yma: Hafan > Newyddion Diweddaraf > Prif Noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn

Prif Noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn

Mae’n anrhydedd bod yn brif noddwyr ar Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn. Mae CBD Ysgolion Ynys Môn wedi'i chofrestru a'i chymeradwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ac maent yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y garfan genedlaethol.

Yn ôl Gethin Williams, a fu’n siarad ar ran y cwmni “Gan ein bod yn gwmni lleol, mae 100% o’n gweithwyr yn bobl leol. Rydym wedi gweld twf sylweddol yn ein busnes yn y 2 flynedd ddiwethaf, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa gref i allu cefnogi cymdeithas o’r fath, sy’n agos iawn at ein calonnau. Ar ôl gwylio sesiwn hyfforddi leol yr wythnos hon, dymunwn y gorau i bawb sy’n cymryd rhan, ond yn bwysicach fyth, i’r bobl ifanc a fydd yn elwa.”

Prif Noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ynys Môn